Beth Mae Ein Cleientiaid yn Dweud
Rydym yn cymryd adborth cleientiaid o ddifrif ac yn eu defnyddio bob amser i wella a datblygu ein gwasanaeth. Rydym yn falch iawn o rai o'r pethau cadarnhaol y mae cleientiaid wedi'u dweud amdanom ac rydym wedi rhannu rhai isod.
Roedd Carys yn addysgiadol, yn adeiladol ac yn cynnig anogaeth a chyngor pan oedd angen. Rhoddodd ei mentora hyder i mi wrth gamu i swydd mewn sefydliad newydd lle roeddwn yn gyfrifol am arwain tîm am y tro cyntaf. Mae Carys yn alluog, yn garedig ac yn bleser gweithio gyda hi.
Roedd bod yn rhan o gynllun coetsio gyda Carys yn brofiad cadarnhaol a defnyddiol o’r cychwyn cyntaf. Roedd y sesiynau 1:1 yn canolbwyntio ar fy annog i adnabod yr heriau ac unrhyw broblemau yn y gwaith trwy gynllunio, meddwl am ateb ac yna gweithredu drosof fy hun.
Roedd y sesiynau gyda Carys yn hynod ddefnyddiol – fe wnaethon nhw wneud i mi feddwl yn feirniadol ac yn strategol, fe wnaethon nhw helpu gyda datrys problemau a rhoi hyder i mi ddatrys materion mwy cymhleth. Roedd y berthynas waith yn ystod y sesiynau yn dda a chefais gyfle i drafod materion cyfrinachol gyda hyder. O’r sesiynau cefais well dealltwriaeth o sut i ddatrys problemau o fewn y tîm yn y gwaith, sut i reoli tîm, sut i reoli amser, a hyder i gynllunio a pharatoi ar gyfer tasgau’r dyfodol. Diolch yn fawr iawn Carys.
HR, Pennaeth Cyfathrebu
Galluogodd y sesiynau coetsio gyda Carys i mi nodi meysydd allweddol o fy mywyd gwaith a oedd yn achosi problemau i mi, a chaniatáu i mi fynd i’r afael â’r materion hynny gyda pherson sy’n annibynnol ar y sefydliad rwy’n gweithio ynddo. Roedd yn caniatáu ar gyfer sgyrsiau cyfrinachol, agored a gwrthrychol. Roeddwn yn gallu archwilio syniadau a dod i gasgliadau a chytuno ar ffyrdd ymlaen.
RD, Pennaeth Cyllid ac Adnoddau
Doeddwn i ddim wedi cael sesiynau coetsio o’r blaen felly doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roeddwn mewn sefyllfa lle roeddwn yn rhwystredig ac wedi colli fy hyder am wahanol resymau: roeddwn wedi colli allan ar ychydig o gyfleoedd da yn y gwaith ac yn teimlo efallai y byddwn yn colli fy sgiliau trwy beidio â’u hymarfer. Rhywfodd cefais fy hun yn troi mewn cylchoedd neu, os rhywbeth, yn mynd am yn ôl.
Heriodd Carys fi i ddod o hyd i’m datrysiadau fy hun ac i fod yn fwy creadigol wrth ddod o hyd i’r datrysiadau hynny. Rwy’n teimlo fy mod wedi adennill fy hyder ac yn teimlo’n llawer mwy positif wrth edrych i’r dyfodol.
LW, Uwch Swyddog Polisi
Fe wnaeth Carys fy helpu i wneud penderfyniad anodd ynglŷn â fy ngyrfa drwy fynd trwy amryw o ymarferion a'm helpu i ddatgelu beth oeddwn i wir yn ei feddwl am y dewisiadau. Byddwn yn argymell Carys os ydych chi ar fforch yn eich gyrfa ac ddim yn gwybod pa ffordd i fynd.
RP Pennaeth Mewnwelediadau Masnachol a Dadansoddi
Before working with Carys, I found myself spending more time rewriting to-do lists than actually accomplishing tasks. I needed to refocus and prioritise, and Carys provided invaluable assistance in helping me shift my perspective and effectively tackle my priorities. Her guidance was a game-changer in boosting my productivity. I highly recommend Carys for her skilful coaching and keen insights.
SP, Perchennog busnes gwasanaethau digidol
Roedd sesiynau coetsio yn rhywbeth hollol newydd i mi. O’n ni’n meddwl mai dim ond pobl bwysig fel Arweinwyr sefydliadau oedd yn derbyn sesiynau o’r fath ond nid yw hynny’n wir. Roeddwn i wedi cyrraedd cyfnod yn fy ngyrfa ble o’n ni’n teimlo’n anhapus ac yn rhwystredig yn y gwaith ac yn dechrau colli fy hyder mewn swydd a maes dwi wedi bod ynddi ers hir. Roedd Carys yn hollol wych, yn broffesiynol, yn gwrando, ac yn herio fi i geisio datrys y problemau o’n ni’n wynebu. Roedd strwythur i bob sesiwn a chafwyd sgyrsiau hollol agored a chyfrinachol bob amser. Roedd gyfres o sesiynau gyda pherson annibynnol sicr wedi helpu’r sefyllfa a byddwn yn annog eraill i wneud os daw cyfle. Teimlaf yn fwy hyderus ac yn fwy positif wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn Carys!
Carys was brilliant, professional, listened, and challenged me to try and solve the problems that I faced. Each session was structured and there were always open, confidential discussions held. A series of sessions with an independent coach helped the situation and I will encourage others to do so if the opportunity arises. I certainly feel more confident and more positive going forward.
Diolch yn fawr iawn Carys!
EW, Swyddog Cyfathrebu
Ni allaf argymell Carys ddigon! Mae hi'n creu amgylchedd croesawgar sy'n gwneud pob sesiwn yn gynhyrchiol ac yn bleserus. Mae Carys yn gefnogol ac yn empathig yn gyson, gan fy annog i ddod a'm gorau allan a gweithio'n effeithiol trwy heriau. I unrhyw un sy'n chwilio am hyfforddwr AD gwybodus, tosturiol a hynod effeithiol, rwy'n argymell Carys yn llwyr.
PO, Gweithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol, Sector preifat
Mae Carys yn hyfforddwr rhagorol. Fe wnaeth ei dull cefnogol ac ysgogol fy helpu i feithrin gwydnwch, mynd i'r afael â heriau'n gadarnhaol, a thyfu'n broffesiynol. Mae hi'n troi anawsterau'n gyfleoedd dysgu ac yn ysbrydoli hyder. Rwy'n ddiolchgar iawn am ei harweiniad ac yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un sy'n ceisio datblygiad personol neu broffesiynol.
NR, Rheolwr Cyfathrebu
Gweithiais gyda Carys yn ddiweddar i geisio helpu i sefydlu rhai nodau a ffocws cliriach mewn perthynas â nodau a phrosiectau personol a phroffesiynol. Mae hi'n gofyn llawer o gwestiynau sy'n ysgogi meddwl ac yn llywio'r sgwrs i gyfeiriad sy'n eich galluogi i gyrraedd amcanion synhwyrol, cyraeddadwy gydag eglurder ac, yn bwysicach fyth, ysgogiad a brwdfrydedd i'w cyflawni. Gall hi eich helpu i edrych yn wrthrychol arnoch chi'ch hun a rhoi geiriau calonogol, cyfeiriad, arweiniad, a lle bo angen, realiti llwm i chi'ch hun i'ch grymuso i osod targedau realistig, cyraeddadwy a mynd ati i'w cyflawni! Diolch, Carys – ardderchog!”

