Beth Mae Ein Cleientiaid yn Dweud
Rydym yn cymryd adborth cleientiaid o ddifrif ac yn eu defnyddio bob amser i wella a datblygu ein gwasanaeth. Rydym yn falch iawn o rai o'r pethau cadarnhaol y mae cleientiaid wedi'u dweud amdanom ac rydym wedi rhannu rhai isod.
Roedd Carys yn addysgiadol, yn adeiladol ac yn cynnig anogaeth a chyngor pan oedd angen. Rhoddodd ei mentora hyder i mi wrth gamu i swydd mewn sefydliad newydd lle roeddwn yn gyfrifol am arwain tîm am y tro cyntaf. Mae Carys yn alluog, yn garedig ac yn bleser gweithio gyda hi.
Roedd bod yn rhan o gynllun coetsio gyda Carys yn brofiad cadarnhaol a defnyddiol o’r cychwyn cyntaf. Roedd y sesiynau 1:1 yn canolbwyntio ar fy annog i adnabod yr heriau ac unrhyw broblemau yn y gwaith trwy gynllunio, meddwl am ateb ac yna gweithredu drosof fy hun.
Roedd y sesiynau gyda Carys yn hynod ddefnyddiol – fe wnaethon nhw wneud i mi feddwl yn feirniadol ac yn strategol, fe wnaethon nhw helpu gyda datrys problemau a rhoi hyder i mi ddatrys materion mwy cymhleth. Roedd y berthynas waith yn ystod y sesiynau yn dda a chefais gyfle i drafod materion cyfrinachol gyda hyder. O’r sesiynau cefais well dealltwriaeth o sut i ddatrys problemau o fewn y tîm yn y gwaith, sut i reoli tîm, sut i reoli amser, a hyder i gynllunio a pharatoi ar gyfer tasgau’r dyfodol. Diolch yn fawr iawn Carys.
HR, Pennaeth Cyfathrebu
Doeddwn i ddim wedi cael sesiynau coetsio o’r blaen felly doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Roeddwn mewn sefyllfa lle roeddwn yn rhwystredig ac wedi colli fy hyder am wahanol resymau: roeddwn wedi colli allan ar ychydig o gyfleoedd da yn y gwaith ac yn teimlo efallai y byddwn yn colli fy sgiliau trwy beidio â’u hymarfer. Rhywfodd cefais fy hun yn troi mewn cylchoedd neu, os rhywbeth, yn mynd am yn ôl.
Heriodd Carys fi i ddod o hyd i’m datrysiadau fy hun ac i fod yn fwy creadigol wrth ddod o hyd i’r datrysiadau hynny. Rwy’n teimlo fy mod wedi adennill fy hyder ac yn teimlo’n llawer mwy positif wrth edrych i’r dyfodol.
LW, Uwch Swyddog Polisi
Galluogodd y sesiynau coetsio gyda Carys i mi nodi meysydd allweddol o fy mywyd gwaith a oedd yn achosi problemau i mi, a chaniatáu i mi fynd i’r afael â’r materion hynny gyda pherson sy’n annibynnol ar y sefydliad rwy’n gweithio ynddo. Roedd yn caniatáu ar gyfer sgyrsiau cyfrinachol, agored a gwrthrychol. Roeddwn yn gallu archwilio syniadau a dod i gasgliadau a chytuno ar ffyrdd ymlaen.

