Mentora Adnoddau Dynol

Beth yw mentora?

Mae mentora yn berthynas lle mae’r mentor, sy’n brofiadol yn eu maes, yn cefnogi’r mentorai yn ei ddysgu a’i arbrofi ac yn ei helpu i ddatblygu ei botensial. Mae’r mentor yn arwain, yn dylanwadu ac yn rhannu ei wybodaeth a’i brofiadau gyda’r mentorai fel ei fod yn dysgu oddi wrth ei fentor.

Mae perthynas fentora yn un lle mae’r mentor a’r mentorai yn cydnabod yr angen am ddatblygiad personol. Mae mentora llwyddiannus yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chyfrinachedd.

Fel arfer, mae’r berthynas fentora yn un tymor hir – yn fwyaf cyffredin rhwng unigolyn a’i reolwr. Ond, nid oes gan bob rheolwr yr un maes arbenigedd â’r unigolyn a dyma lle mae mentor allanol yn dod i’r fei. Gyda bron i ugain mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol, mae Carys yn cynnig mentoriaeth i unigolion sy’n gweithio ym maes AD ar unrhyw lefel.

Ar gyfer pwy mae mentora?

Gall rheolwyr pobl ac unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl Adnoddau Dynol ar unrhyw lefel deimlo y gallent ddefnyddio cefnogaeth mentor. Gall rolau AD yn aml fod yn rhai unig, yn enwedig ar gyfer AD annibynnol neu reolwyr pobl mewn sefydliadau nad oes ganddynt dîm AD i droi ato. Gall cael mentor gallant gysylltu ag ef a’i ddefnyddio fel seinfwrdd fod yn gymorth amhrisiadwy i unrhyw un..

Beth yw manteision mentora?

Yn gyffredinol, gael cael mentor gynnig y manteision canlynol:

  • Cynnydd mewn hyder
  • Cynnydd mewn cynhyrchiant
  • Mynediad at gymorth ac arweiniad perthnasol
  • Bydd mentor yn deall gwerth yr hyn rydych yn ei wneud
  • Mynediad i wybodaeth a phrofiad helaeth
  • Cael rhywun i ateb cwestiynau a chynnig cyngor
  • Seinfwrdd ar gyfer archwilio syniadau newydd
  • Helpu i nodi a chywiro bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth
  • Gwell datblygiad personol a gyrfa
  • a llawer mwy

Beth i ddisgwyl o sesiwn fentora

Cyn y sesiwn cyntaf

Y cam cyntaf yw cael sesiwn byr ‘dod i’ch adnabod’ gyda’r cleient. Mae hyn er mwyn dysgu am y cleient, pa faterion yr hoffent eu trafod a’u datblygu a pha ddeilliannau yr hoffent eu cyflawni. Yn ystod y sesiwn gychwynnol hon bydd y mentor yn canfod ai nhw yw’r person iawn i fentora’r cleient neu a ydynt yn meddwl y byddai’r cleient yn cael ei wasanaethu’n well gan fentor arall..

Sesiynau ar-lein

Bydd y cleient a’r mentor yn trafod sut mae materion wedi datblygu ers y sesiwn flaenorol ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â gwaith y mae’r cleient yn dymuno eu trafod. Mae pob sesiwn yn gyfle i’r cleient ofyn cwestiynau a chael cyngor ac arweiniad gan y mentor ac i rannu syniadau. Gall y cleient ddisgwyl gwneud llawer o siarad, gwrando a meddwl yn ystod pob sesiwn.

Er mwyn cael y gorau o bob sesiwn bydd angen i’r cleient fod yn gwbl bresennol gyda negeseuon e-bost a ffonau wedi’u diffodd er mwyn lleihau’r gwrthdyniadau posibl cyn belled ag y bo modd..

Sesiynau wyneb yn wyneb

Bydd y cleient a’r mentor yn trafod sut mae materion wedi datblygu ers y sesiwn flaenorol ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â gwaith y mae’r cleient yn dymuno eu trafod. Mae pob sesiwn yn gyfle i’r cleient ofyn cwestiynau a chael cyngor ac arweiniad gan y mentor ac i rannu syniadau. Gall y cleient ddisgwyl gwneud llawer o siarad, gwrando a meddwl yn ystod pob sesiwn.

Mae ymchwil yn dangos y gall bod y tu allan gydbwyso ein meddylfryd gwybyddol, newid y ffordd yr ydym yn meddwl, gwella ein lles trwy leihau pryder, straen ac iselder a gall reoli emosiwn. Felly os yw’r cleient yn cytuno (a’r tywydd yn ffafriol!) gall y mentor awgrymu sesiwn ‘mynd am dro a sgwrsio’^..*

Er mwyn cael y gorau o bob sesiwn bydd angen i’r cleient fod yn gwbl bresennol gyda negeseuon e-bost a ffonau wedi’u diffodd er mwyn lleihau’r gwrthdyniadau posibl cyn belled ag y bo modd.

* ^ Nid yw’r mentor yn atebol am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy’n digwydd wrth gerdded a sgwrsio.

Cysylltwch heddiw i drafod mentora AD.

Coaching Mentoring Wales

Defnyddiwch y ffurflen er mwyn cysylltu â ni, neu anfonwch ebost at [email protected].

Byddwn yn anelu at ymateb i’ch neges o fewn 48 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc a chyhoeddus)

Diolch.