Coetsio Gweithredwyr

Beth yw coetsio gweithredwyr?

Mae coetsio gweithredwyr yn broses gydweithredol gyda pherthynas tymor byr i ganolig rhwng y cleient a’r coets. Diben y berthynas yw i gefnogi’r cleient i gyflawni eu nodau trwy gynyddu hunanymwybyddiaeth, datgloi potensial a chyflymu eu cyflawniadau trwy herio, cymell a dal cleientiaid yn atebol am eu datblygiad eu hunain a chynnydd tuag at gyflawni eu nodau.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae coetsio gweithredwyr wedi dod yn offeryn datblygu arweinyddiaeth a ffafrir ar gyfer uwch swyddogion gweithredol. Mae’r sesiynau’n bersonol ac mor unigryw â’r unigolion eu hunain. Fydd dim dau brofiad coetsio byth yr un fath gan y bydd gan bob cleient nodau ac uchelgeisiau gwahanol ac ymagweddau gwahanol tuag at eu cyrraedd. O gymharu ag atebion dysgu a datblygu eraill, mae coetsio gweithredwyr yn fwy effeithiol ac effeithlon o ran amser gan ei fod wedi’i deilwra’n unigol i anghenion y cleient ac yn canolbwyntio’n llwyr ar ddeilliannau.

Mae coetsio gweithredwyr yn cynnwys datblygiad yr unigolyn o fewn cyd-destun sefydliadol ac yn cynorthwyo i adeiladu arddulliau arwain cryf, sgiliau, ffocws, hyder a gallu rheoli. Mae’n fuddiol hefyd wrth reoli gwrthdaro, argyfwng neu straen, paratoi ar gyfer newidiadau rôl a chefnogi unigolion i gyflawni eu llawn botensial.

Sgwrs antherapiwtig yw coetsio, wedi’i fwriadau ar gyfer uwch swyddogion gweithredol a chleientiaid potensial uchel sy’n dymuno gwella eu perfformiad gwaith, adeiladu hyder a gwella eu gwaith neu eu sefyllfa bersonol. Yn gryno, mae’r hyfforddwr yn cefnogi’r cleient wrth sefydlu ymddygiadau newydd.

Mae’n bwysig cydnabod nad yw coetsio yn gwrs parod na chyffredinol, therapi, cwnsela, ymgynghori na choetsio bywyd.

Ar gyfer pwy mae coetsio gweithredwyr?

Mae coetsio gweithredwyr yn benodol ar gyfer y rhai hynny mewn swyddi rheoli uwch sydd â swyddi o wneud penderfyniadau hanfodol bwysig ac sydd â’r lefelau uchaf o gyfrifoldeb o fewn eu sefydliad i’w helpu i wella perfformiad a chanlyniadau personol a sefydliadol mesuradwy. Yn gyffredinol, y rhai sy’n cymryd rhan mewn coetsio gweithredwyr yw Prif Weithredwyr, Prif Swyddogion Gweithredu a rolau C-suite eraill, Rheolwyr Gyfarwyddwyr, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Cadeiryddion, Llywyddion, Is-lywyddion, a’r rhai sy’n camu i fyny i rolau o’r fath.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau i swyddogion gweithredol a chyfarwyddwyr lefel bwrdd, mae'r coets gweithredol hefyd yn gweithio gydag uwch reolwyr sydd newydd eu penodi, swyddogion gweithredol sy’n cael eu paratoi ar gyfer rolau lefel uchel yn y dyfodol, unigolion â photensial uchel a’r rhai sy’n arwain sefydliadau drwy gyfnodau o newid a thrawsnewid.

Beth yw manteision coetsio gweithredwyr?

Yn gyffredinol gall coetsio gweithredwyr ddarparu’r manteision canlynol:

  • Y gallu i addasu
  • Gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Arweinyddiaeth effeithiol, foesegol, wedi’i yrru gan ganlyniadau
  • Gwell perthnasoedd gydag eraill
  • Gwell rheolaeth amser a threfniadaeth
  • Cynnydd mewn gwytnwch
  • Cynnydd mewn hunanymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol
  • Mwy o empathi tuag at eraill
  • Cymhelliant ac ysbrydoliaeth
  • Bod yn agored i wahanol ffyrdd o feddwl
  • Llai o straen
  • a llawer mwy

Beth i ddisgwyl o sesiwn coetsio?

Cyn y sesiwn cyntaf

Y cam cyntaf yw cael sesiwn ‘dod i’ch adnabod’ gyda’r cleient. Mae hyn er mwyn dysgu am y cleient, pa faterion yr hoffent eu trafod a’u datblygu a pha ddeilliannau yr hoffent eu cyflawni. Yn ystod y sesiwn gychwynnol hon bydd y coets yn canfod ai nhw yw’r coets iawn ar gyfer y cleient neu a ydynt yn meddwl y byddai’r cleient yn cael ei wasanaethu’n well gan goets arall.

Sesiynau ar-lein

Bydd pob sesiwn yn dechrau drwy fyfyrio ar ddeilliannau’r sesiwn flaenorol a chytuno ar ba faterion i ymchwilio iddynt yn ystod pob sesiwn. Efallai bydd y coets yn defnyddio rhai adnoddau creadigol neu gwestiynau i annog meddwl y tu allan i’r bocs a/neu efallai y byddan nhw’n defnyddio rhai modelau a methodolegau profedig i fynd at wraidd y mater. Naill ffordd neu’r llall gall cleient ddisgwyl gwneud llawer o siarad a meddwl yn ystod y sesiynau. Gall y coets hefyd ofyn i’r cleient dreulio peth amser yn myfyrio rhwng pob sesiwn a gwneud ychydig o waith cartref i baratoi ar gyfer y sesiwn nesaf.

Er mwyn cael y gorau o bob sesiwn bydd angen i’r cleient fod yn gwbl bresennol gyda negeseuon e-bost a ffonau wedi’u diffodd er mwyn lleihau’r gwrthdyniadau posibl cyn belled ag y bo modd.

Sesiynau wyneb yn wyneb

Bydd pob sesiwn yn dechrau drwy fyfyrio ar ddeilliannau’r sesiwn flaenorol a chytuno ar ba faterion i ymchwilio iddynt yn ystod pob sesiwn. Efallai bydd y coets yn defnyddio rhai adnoddau creadigol neu gwestiynau i annog meddwl y tu allan i’r bocs a/neu efallai y byddan nhw’n defnyddio rhai modelau a methodolegau profedig i fynd at wraidd y mater. Naill ffordd neu’r llall gall cleient ddisgwyl gwneud llawer o siarad a meddwl yn ystod y sesiynau. Gall y coets hefyd ofyn i’r cleient dreulio peth amser yn myfyrio rhwng pob sesiwn a gwneud ychydig o waith cartref i baratoi ar gyfer y sesiwn nesaf.

Mae ymchwil yn dangos y gall bod y tu allan gydbwyso ein meddylfryd gwybyddol, newid y ffordd yr ydym yn meddwl, gwella ein lles trwy leihau pryder, straen ac iselder a gall reoli emosiwn. Felly os yw’r cleient yn cytuno (a’r tywydd yn ffafriol!) gall y coets awgrymu sesiwn ‘mynd am dro a sgwrsio’– a elwir hefyd yn Eco Coetsio*^.

Er mwyn cael y gorau o bob sesiwn bydd angen i’r cleient fod yn gwbl bresennol gyda negeseuon e-bost a ffonau wedi’u diffodd er mwyn lleihau’r gwrthdyniadau posibl cyn belled ag y bo modd.

* Ni fydd y coets yn cymryd nodiadau yn ystod y sesiynau mynd am dro a sgwrsio ond bydd yn ysgrifennu myfyrdodau wedi i’r sesiwn ddod i ben.

^ Nid yw’r coets yn atebol am unrhyw ddamweiniau neu anafiadau sy’n digwydd wrth gerdded a sgwrsio.

Cysylltwch heddiw i drafod coetsio gweithredwyr.

Coaching Mentoring Wales

Defnyddiwch y ffurflen er mwyn cysylltu â ni, neu anfonwch ebost at [email protected].

Byddwn yn anelu at ymateb i’ch neges o fewn 48 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc a chyhoeddus).

Diolch.