Cwrdd â’r Coets

Carys Hedd Paschalis

Ymgymerodd Carys â chymhwyster ILM lefel 7 mewn Coetsio a Mentora Gweithredwyr yn 2021 wedi iddi benderfynu ychwanegu llinyn arall at ei bwa Adnoddau Dynol. Gyda bron i ddau ddegawd o brofiad yn y proffesiwn pobl o fewn y sectorau cyhoeddus ac elusennol, mae ei pherthynas waith cadarnhaol gydag uwch arweinwyr yn golygu ei bod yn chwarae rhan yn rheolaidd fel seinfwrdd a hyn ysgogodd hi i ddatblygu ei galluoedd coetsio a mentora ymhellach, gan ennill achrediad ILM mewn Coetsio a Mentora Gweithredwyr.

Carys Paschalis

Pam Gweithio Gyda Carys?

Oracl Coaching

Dull Coetsio

Mae dull coetsio Carys yn ddemocrataidd ac yn ddatblygiadol. Trwy weithio gyda’i chleientiaid ei nod yw eu helpu i adnabod eu potensial cudd a thynnu’r gorau ohonynt trwy annog cymhelliant ac ysbrydoliaeth, effeithlonrwydd a chynhyrchiant, creadigrwydd a grymuso, meithrin hyder a hunan-gred, ymrwymiad i amcanion a datblygiad hirdymor a thwf gwell. Ei hoff dechnegau yw coetsio gwybyddol ymddygiadol a’r defnydd o ymarferion creadigol ac ysgrifenedig, er y bydd yn gweithio gyda chleientiaid i ganfod technegau a modelau sy’n denu’r gorau ohonynt.

Oracl - Coaching Mentoring Welsh

Mae Carys yn siarad Cymraeg yn rhugl; Cymraeg yw ei hiaith gyntaf a gall gynnig sesiynau coetsio yn Gymraeg neu Saesneg. Mae hi hefyd wedi dysgu am goetsio cleientiaid ar y Sbectrwm Awtistig trwy seminarau’r Gymdeithas Coetsio.

Coaching Wales Carys Paschalis

Professional Membership & Continuous Professional Development

Mae Carys yn aelod o’r Gymdeithas Coetsio ac felly mae’n cadw at y Cod Moeseg Fyd-eang ar gyfer Coestwyr, Mentoriaid a Goruchwylwyr. Ar gyfer ei datblygiad proffesiynol parhaus ei hun mae’n cymryd rhan yn seminarau’r Gymdeithas Coetsio a fforymau cyd-coetsio ac mae hefyd yn aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Fel Aelod Siartredig o’r CIPD mae hefyd yn mynychu digwyddiadau, seminarau a gweithdai sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol yn rheolaidd sy’n aml yn gorgyffwrdd â coetsio a mentora. Mae’n cymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio gyda goruchwyliwr cymwys (gofyniad bod yn hyfforddwr) yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio cymheiriaid.

Cysylltwch  Ni